Rhoi platennau ym Mhont-y-clun
Oeddech chi'n gwybod bod un rhodd platennau yn gallu helpu i achub hyd at dri o fywydau oedolyn neu 12 babi?
Mae rhoi platennau yn bwysig dros ben, gan fod y celloedd yn helpu i stopi gwaedu. Hefyd, mae platennau’n hanfodol er mwyn helpu cleifion i ymladd clefydau cronig, canserau ac i wella o anafiadau trawmatig.
Beth ydy platennau?
Cydrannau gwaed ydy platennau. Maen nhw’n gelloedd bach iawn yn eich gwaed sy'n ffurfio clotiau, ac maen nhw’n hynod o ddefnyddiol i stopio cleifion rhag gwaedu a chleisio.
Mae platennau’n para am saith diwrnod yn unig, felly rydym angen cyflenwad cyson a pharhaus gan roddwyr platennau hael i barhau i fedru cyflenwi ysbytai gyda'r rhoddion hanfodol hyn i gleifion mewn angen.