Gallai rhywun rydych chi'n ei adnabod fod yn gyfatebiaeth berffaith i glaf sydd angen trawsblaniad mêr esgyrn. Lledaenwch y neges cliciwch yma.

"Achubwch fywydau" medd rhoddwr platennau ar ôl cyrraedd 1,000 o roddion.

Mae gweithiwr dur o Gaerffili, sydd wedi ymddeol, yn galw ar fwy o bobl i roi gwaed neu blatennau, ar ôl iddo roi swm anhygoel o 1,000 o roddion gwaed ar gyfer Gwasanaeth Gwaed Cymru – carreg filltir a gymerodd dros bedwar degawd i’w gyflawni.

Rhoddodd Colin Bunston, sy’n 74 oed, ei rodd cyntaf fel rhoddwr gwaed nôl ym 1977, cyn newid i fod yn roddwr platennau afferesis ym 1990. Gallai’r rhoddion fod wedi achub miloedd o gleifion, gan gynnwys y rheiny sy’n cael cemotherapi fel rhan o’u triniaeth.

“Y rhodd fwyaf pwysig yw eich un cyntaf, yr ail fwyaf pwysig yw’r un nesaf. Yr un nesaf bob tro.”

Colin

Ar ôl rhoi’r 1,000fed rhodd, meddai Colin: “Roeddwn yn gyndyn yn y dechrau am un rheswm yn unig. Doeddwn i ddim yn arbennig o frwdfrydig am rywun yn sticio nodwydd yn fy mraich. Ond mae’n rhywbeth rydych chi’n anghofio amdano. Fe wnes i’r ymrwymiad, does dim iddo.

“Does dim llawer o bobl yn gwybod am roi platennau. Fe wnes i ddarganfod am roi platennau drwy roi gwaed, ac roedd gen i ddiddordeb. Mae’n cymryd mwy o amser – hyd at 90 munud, ond gallwch roi gwaed yn amlach – mae yn fy nyddiadur bob tair wythnos.”

Gellir dod o hyd i blatennau yn y llif gwaed, a gellir eu casglu naill ai drwy gyfuno pedwar rhodd o waed sy’n cydweddu â’i gilydd, neu drwy broses o’r enw afferesis. Mae rhoddion afferesis yn cymryd gwaed gan roddwr, ac yn trosglwyddo’r gwaed drwy beiriant arbenigol sy’n gwahanu’r platennau, cyn dychwelyd celloedd coch y gwaed yn ddiogel i’r rhoddwr.

“Doeddwn i ddim yn meddwl y buaswn i fyth yn cyrraedd 1,000 o roddion, mae’n cropian fyny arnoch chi! Rydych chi’n sylwi dros y blynyddoedd eich bod chi’n dod yn agosach, a phan fyddwch chi’n cyrraedd 900, rydych chi’n dechrau meddwl ei fod o fewn cyrraedd” meddai Colin ar ôl cyrraedd y garreg filltir.

“Y rhodd fwyaf pwysig yw eich un cyntaf, yr ail fwyaf pwysig yw’r un nesaf. Yr un nesaf bob tro. Dyna sut mae fy ffordd o feddwl wedi bod ers i mi ddechrau rhoi gwaed.”

Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru angen casglu 100,000 o roddion bob blwyddyn i helpu i gefnogi 20 o ysbytai ar draws Cymru.

Meddai Alan Prosser, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwaed Cymru:

“Mae rhoi 1,000 o roddion yn gamp anhygoel, un na fydd ond llond dwrn o bobl fyth yn ei gyflawni. Mae’n dangos blynyddoedd o ymrwymiad i roi gwaed gan Colin ac ar ben hynny, cannoedd o oriau mewn cadair rhoi gwaed ar ran cleifion mewn angen.

“Mae Colin wedi bod yn arwr i gymaint o bobl, gan gynnwys cleifion, yn eu brwydr yn erbyn canser. Ni fydd y bobl hyn fyth yn cael y cyfle i ddiolch iddo’n bersonol. Ar ran y miloedd o bobl sydd wedi derbyn gwaed ar draws Cymru ac sydd wedi elwa ar ymrwymiad Colin – diolch.”

Dysgwch fwy am blatennau heddiw

Darllen mwy