Gallai rhywun rydych chi'n ei adnabod fod yn gyfatebiaeth berffaith i glaf sydd angen trawsblaniad mêr esgyrn. Lledaenwch y neges cliciwch yma.

Teyrnged addas i dad sy'n achub bywydau

Yn ddiweddar, rhoddodd dyn o Gei Connah waed i nodi beth fyddai wedi bod yn 100fed rhodd o waed ei dad.

 

Roedd tad Andy Hughes o Sir y Fflint, oedd wedi bod yn rhoi gwaed am flynyddoedd, bob amser wedi bod yn benderfynol o gyrraedd cant o roddion gwaed ond yn anffodus, bu farw ar ôl rhoi 99 o roddion gwaed.

Mewn teyrnged dwymgalon, cysylltodd Andy â Gwasanaeth Gwaed Cymru i ddweud y byddai’n rhoi ei rodd o waed nesaf er cof am ei dad Kevin, i nodi beth fyddai wedi bod yn 100fed rhodd iddo.

“Ar ôl i mi roi gwaed, rhoddodd staff Gwasanaeth Gwaed Cymru bin calon aur Dad i mi am gyrraedd 100 o roddion. Mae’n deyrnged mor addas i ddyn anhunanol, a wnaeth gymaint dros y gymuned leol."

Andy Hughes

Wrth sôn am ymroddiad ei dad i roi gwaed, dywedodd Andy:

“Roedd Dad bob amser yn gwneud pwynt enfawr o ddweud pa mor bwysig oedd rhoi gwaed; roedd fel crefydd iddo. Pasiodd fy nhad ei angerdd dros helpu pobl ymlaen i bob un o’i dri mab. Mae pob un ohonom yn rhoddwyr gwaed balch.

“Mae rhoi gwaed er cof amdano yn golygu’r byd i mi ac i ni gyd fel teulu.

“Ar ôl i mi roi gwaed, rhoddodd staff Gwasanaeth Gwaed Cymru bin calon aur Dad i mi am gyrraedd 100 o roddion. Mae’n deyrnged mor addas i ddyn anhunanol, a wnaeth gymaint dros y gymuned leol.

“Fe wnaeth fy nhad ddrymio’r pwysigrwydd o roi gwaed ymhob un ohonom, ac rwy’n gobeithio y bydd ei stori yn gwneud i bobl eraill feddwl am roi gwaed eu hunain hefyd. Dydych chi byth yn gwybod pryd y gallech chi neu rhywun rydych chi’n ei garu fod mewn angen.”

Mae brodyr Andy, Chris a Steve, wedi gwneud cynlluniau i roi gwaed er cof am eu tad hefyd.

Dywedodd Alan Prosser, cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwaed Cymru: “Mae cyrraedd 99 o roddion gwaed yn garreg filltir syfrdanol, a dim ond ychydig iawn o bobl fydd byth yn cyflawni hyn. Mae’n gyflawniad sy’n dangos blynyddoedd o ymrwymiad i helpu eraill.

Andy Hughes and family

“Mae gan bob rhodd o waed y posibilrwydd o helpu tri chlaf mewn angen, sy’n golygu y gallai tua 300 o gleifion fod wedi elwa o roddion hael Kevin dros y blynyddoedd.

“Nid yn unig yr oedd Kevin wedi ymrwymo i roi gwaed, ond mae ei etifeddiaeth wedi cael ei drosglwyddo i’w blant hefyd. Mae’n rhywbeth mor hyfryd i’w feibion ei wneud er cof am eu tad.

“Gall y rhoddion hyn wneud gwahaniaeth sy’n achub bywydau i rywun mewn angen.

“Ein rhoddwyr a’n cefnogwyr yw anadl einioes Gwasanaeth Gwaed Cymru, a byddwn yn annog unrhyw un sy’n ffit ac sy’n gallu ystyried dilyn yn ôl troed y teulu Hughes ac ymuno â’n cymuned o achubwyr bywydau i wneud hynny.”

Dewch o hyd i'ch sesiwn rhoi gwaed agosaf.

Gwnewch apwyntiad heddiw