Mae misoedd yr haf yn heriol am wahanol resymau, gan gynnwys y cynnydd mewn teithio, a allai ohirio rhoddwyr rhag rhoi gwaed am gyfnod o amser, y cynnydd mewn profion sgrinio aflwyddiannus oherwydd lefelau uwch o ddadhydradu a lefelau haearn is; mae digwyddiadau dros yr haf yn gostwng nifer yr apwyntiadau sydd yn cael eu gwneud hefyd, ac yn codi’r cyfraddau mewn perthynas â nifer y rhoddwyr sydd yn gwneud apwyntiadau ond sydd ddim yn mynychu.
Dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwaed Cymru, Alan Prosser:
“Mae’r stociau mewn sefyllfa sefydlog yng Nghymru ar hyn o bryd, diolch i haelioni rhoddwyr ar draws y wlad. Fodd bynnag, rhagwelir y bydd stociau’n gostwng rhwng nawr a mis Medi, ac mae gennym yr her o hyd o lenwi dros 7,000 o slotiau apwyntiadau cyn diwedd cyfnod gwyliau’r haf.
“Rydyn ni’n gwybod y gall yr amser hwn fod yn anodd, gyda thripiau dramor a phobl yn gwneud y mwyaf o’r tywydd cynhesach; mae hyn yn ei gwneud hi’n anoddach i bobl ddod o hyd i’r amser i roi gwaed, ond mae’n hanfodol ein bod ni’n parhau i gynnal cyflenwad cyson o gynhyrchion gwaed i’r ysbytai.
“Rydym yn galw’n arbennig am roddwyr sydd â gwaed teip O neu A, gan fod galw mawr am y grwpiau hyn ar hyn o bryd.