Gallai rhywun rydych chi'n ei adnabod fod yn gyfatebiaeth berffaith i glaf sydd angen trawsblaniad mêr esgyrn. Lledaenwch y neges cliciwch yma.

Goroeswr canser yn arwain ymgyrch newydd i hybu rhoddion gwaed yng Nghymru

Mae Martin Nicholls, goroeswr canser o Abertawe, wedi ymuno â Gwasanaeth Gwaed Cymru i lansio ymgyrch newydd sbon i annog busnesau ar draws Cymru i achub bywydau.

 

Nod yr ymgyrch newydd Gwnewch Waedyn Fusnesi Chi ydy cau'r bwlch ar y 10,000 o roddion o fusnesau sydd yn cael eu colli bob blwyddyn yn dilyn y pandemig, a'r cynnydd ym mhoblogrwydd gweithio hybrid, gyda mwy o staff bellach yn gweithio o gartref.

Llwyddodd Martin i hybu rhoddion yn ardal Abertawe a’r cyffiniau ar ôl rhannu ei stori ac annog cydweithwyr i roi gwaed yn ei rôl fel Prif Weithredwr Cyngor Abertawe. Nawr, mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn helpu mwy o sefydliadau i ddilyn yn ôl troed Martin i dynnu sylw at y pwysigrwydd o roi gwaed, trwy gyfrwng pecyn cymorth newydd sydd wedi cael ei adeiladu ar gyfer busnesau o bob maint. new toolkit built for businesses of all sizes.

Roedd Martin, 58 oed, yn rhoddwr gwaed ei hun cyn cael tua 25 o drallwysiadau gwaed achub bywyd yn ystod ei driniaeth ar gyfer canser y gwaed. Bydd angen trallwysiad gwaed ar dros 25 y cant o bobl ar ryw adeg yn eu bywydau, ond dim ond 3 y cant sydd fyth yn rhoi gwaed. Mae gwaed a'i sgil-gynhyrchion yn chwarae rhan hanfodol mewn achub bywydau, gan gynnwys cleifion â chanser y gwaed fel Martin.

Yn ffodus, fe wnaeth y trallwysiadau a gafodd Martin helpu i sefydlogi ei gyflwr, a chaniatáu iddo barhau â’i driniaeth canser a’i fywyd dydd i ddydd, gan gynnwys ei waith yng Nghyngor Abertawe.

In June 2024, Martin’s cancer went into remission, Martin said, ‘‘You never think it’s going to be you; this is why I am supporting the campaign as someone who has received so many lifesaving transfusions, and I want to give back. I will be forever grateful to those selfless heroes for giving up their time to help someone like me when I needed it the most. I want to use my voice as not just Chief Executive of Swansea Council but as a cancer survivor to encourage as many workplaces as possible to join this lifesaving campaign.”

Martin also has four children who all now donate themselves.

“Rhoddodd y trallwysiadau gwaed a gefais gyfle i mi dreulio mwy o amser gwerthfawr gyda fy ngwraig a fy mhlant. Heb gymorth rhoddwyr ar draws Cymru, efallai na fuaswn hyd yn oed yma heddiw.”

Martin Nicholls

Gall sefydliadau gefnogi’r ymgyrch mewn sawl ffordd, o annog gweithwyr a rhwydweithiau proffesiynol i roi gwaed yn lleol, i gynnal sesiynau rhoi gwaed neu ddigwyddiadau ar eu safle i helpu Gwasanaeth Gwaed Cymru i recriwtio mwy o roddwyr.

Mae Frank Murphy, Rheolwr Gweithrediadau Eiddo Ardal yn CEM Berwyn, Wrecsam, hefyd yn cefnogi Gwasanaeth Gwaed Cymru, a dechreuodd roi gwaed drwy ei swyddfa ym 1986.

“Roedd rhoi gwaed yn rhywbeth wnes i am flynyddoedd lawer i ddechrau heb hyd yn oed deall y manteision gwirioneddol sydd ganddo i gleifion mewn angen. Fodd bynnag, newidiodd hyn yn gyflym pan gafodd fy ngwraig lawdriniaeth ar y galon a thair llawdriniaeth achub bywyd arall, ble roedd hi angen trallwysiadau gwaed.”

Frank Murphy

Talking about why he became a blood donor, Frank said, “I realised we had a great opportunity to promote blood donation to colleagues here at Berwyn, so we organised our own blood donation session for staff. Blood donors have saved my wife’s life more than once and could someday help one of your loved ones.”

Mae angen i Wasanaeth Gwaed Cymru gasglu tua 350 o roddion gwaed bob dydd i gyflenwi ysbytai ar draws y wlad gyda digon o waed a chynnyrch gwaed i gleifion mewn angen.

Dewch o hyd i’ch sesiwn rhoi gwaed agosaf

Cliciwch ar y ddolen i wirio eich cymhwysedd, ac i ddod o hyd i'ch sesiwn rhoi gwaed agosaf.

Dywedodd Alan Prosser, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwaed Cymru, “Mae dod o hyd i sefydliadau sydd â digon o staff ar y safle i gynnal ein hymgyrchoedd rhoi gwaed wedi bod yn her, gyda mwy a mwy o bobl yn gweithio o gartref.

“Felly rydym wedi gorfod meddwl ychydig yn wahanol, ac mae gweithio gyda Martin a Frank wedi rhoi rhywfaint o gyfleoedd cyffrous i ni a allai weithio i unrhyw fusnes, boed yn staff swyddfa, hybrid neu’n staff sy’n gweithio o gartref.

“Mae gennym ni grŵp gwych o sefydliadau yn gweithio gyda ni yn barod, ac rydym yn gobeithio y bydd yr ymgyrch hon yn helpu mwy o fusnesau i’n cefnogi ni ac i ymuno â’n cymuned o achubwyr bywyd.”

Cofrestrwch eich gweithle neu dysgwch fwy am yr ymgyrch

Gwnewch Waed yn Fusnes i Chi