Rôl Gwasanaeth Gwaed Cymru mewn ymchwil gwaed byd-eang: Ein gwaith gyda'r grŵp BEST-Collaborative
Mae Cenhadaeth 6 yn ein Strategaeth Ymchwil, Datblygu ac Arloesi newydd yn dweud y byddwn yn gwasanaethu pobl Cymru drwy gefnogi mentrau rhyngwladol. Un o'r ffyrdd rydym yn cyflawni hyn yw trwy’r grŵp BEST-Collaborative.
Beth yw'r grŵp BEST-Collaborative?
Mae BEST-C (Biomedical Excellence for Safer Transfusion Collaborative) yn grŵp rhyngwladol o arweinwyr mewn meddygaeth trallwyso a therapïau cellog. Ei nod ydy datblygu'r cynhyrchion a'r arferion gorau ar gyfer rhoddwyr a chleifion.
Mae'r grŵp yn dwyn ynghyd arbenigwyr a sefydliadau o bob cwr o'r byd i rannu gwybodaeth a gweithio ar Therapi Cellog, Cyfansoddion Confensiynol, Trallwysiadau Clinigol ac Astudiaethau Rhoddwyr. Mae BEST-C yn creu lle ble gall arweinwyr gyfnewid syniadau, dysgu oddi wrth ei gilydd, a datblygu astudiaethau sy'n mynd i'r afael â'n heriau byd-eang cyffredin. Drwy gydweithio, gall aelodau rannu mewnwelediadau ac anghenion, data a samplau meinwe.
Mae'r cydweithrediad yn helpu i lunio dyfodol rhoi gwaed a thrallwyso a thrawsblannu, ac yn sicrhau ein bod yn cynnal y safonau uchaf o ran diogelwch, ansawdd ac effeithiolrwydd i roddwyr a chleifion ar draws y byd.
Rôl Gwasanaeth Gwaed Cymru
Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn aelod o’r grŵp BEST-C. Drwy ddau arweinydd enwebedig, rydym yn cynrychioli Gwasanaeth Gwaed Cymru ac ecosystem trallwyso GIG Cymru. Rydym yn arwain ar gydlynu ar draws Cymru i gefnogi timau trallwyso ysbytai i gymryd rhan mewn mentrau perthnasol BEST-C, i ehangu cyrhaeddiad BEST-C, ac i gyflwyno arferion gorau ac ymchwil rhyngwladol yn lleol.
Rydym wedi bod yn aelodau o BEST-C ers dros 10 mlynedd, gan gyfrannu at brosiectau hanfodol sydd ag effaith fyd-eang. Rydym wedi cymryd rhan mewn cyfartaledd o bum astudiaeth bob blwyddyn.
Mentrau rydyn ni'n eu cefnogi
Deall Platennau sy’n Clystyru i Leihau Gwastraff
Edrychodd yr astudiaeth hon, dan arweiniad Nicola Pearce ac mewn partneriaeth â Chroes Goch Awstralia, ar pam mae rhai rhoddion platennau yn ffurfio clystyrau, sydd yn sgil hynny, yn golygu nad oes modd eu defnyddio. Mae'r clystyrau hyn, sydd yn cael eu galw’n agregau, yn arwain at roddion gwastraffus ac at y ffaith bod llai o blatennau ar gael. Archwiliodd yr astudiaeth p’un a oedd rhai rhoddwyr yn fwy tebygol o gynhyrchu platennau wedi clystyru, a p’un a allai eu hidlo cyn iddynt gael eu trallwyso wella eu hansawdd.
Adweithiau Prin gan Roddwyr a gwaith parhaus
Yn 2021, fe wnaethon ni gyfrannu at yr astudiaeth ryngwladol hon sy'n ymchwilio i adweithiau prin a difrifol gan roddwyr, yn defnyddio data gan fwy na 22 miliwn o roddion ar draws chwe gwlad. Dangosodd y canfyddiadau bod adweithiau fasofagal gydag anaf yn digwydd ar gyfradd o 1.53 fesul 100,000 o roddion, gyda chyfraddau uwch mewn menywod a rhoddwyr tro cyntaf. Nododd yr astudiaeth fylchau yn y data hefyd, gan annog BEST-C i barhau i archwilio'r materion hyn o safbwynt byd-eang er mwyn gwella lles rhoddwyr. Drwy gydweithio'n fyd-eang, mae GGC yn helpu i wella diogelwch rhoddwyr a mireinio protocolau gofal. Yn ddiweddar, mae Julie Curry yn y Gwasanaethau Clinigolwedi arwain ymdrechion sy'n parhau i gefnogi hyn
Marcwyr heintus
Wrth i dechnolegau profi diogelwch gwaed barhau i esblygu, mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn parhau i fod wedi ymrwymo i ddeall a gwerthuso eu heffaith ar ddiogelwch rhoddwyr a chleifion ac ar ansawdd y cynhyrchion gwaed a gynhyrchwn.
Mae Ann Jones a'n hadran Profion Awtomataidd yn monitro ac yn adrodd yn weithredol ar ein perfformiad, ac yn cyfrannu data i'w cymharu â gwasanaethau eraill
Mewn cydweithrediad â BEST-C a mentrau rhyngwladol eraill, mae ein cyfraniadau'n adlewyrchu ymrwymiad parhaus i sicrhau bod ein strategaethau profi gwaed y gorau y gallant fod, a’u bod yn cael eu monitro, eu craffu a'u herio'n adeiladol drwy’r amser i sbarduno gwelliant parhaus.
Edrych i’r Dyfodol: Ein hymrwymiad i ymchwil gwaed
Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn parhau i fod wedi ymrwymo i ymchwil ryngwladol sy'n gwella diogelwch ac ansawdd trallwysiadau gwaed. Drwy ein gwaith parhaus gyda BEST-C, byddwn yn helpu i lunio dulliau profi gwell, gwella ansawdd cyfansoddion gwaed, a chyfrannu at ddatblygiadau gwyddonol sy'n fuddiol i gleifion ar draws y byd. Mae ein rôl yn sicrhau ein bod yn aros ar flaen y gad o ran arloesi, gan gefnogi triniaethau sy'n achub bywydau gyda'r safonau gofal uchaf.