Gallai rhywun rydych chi'n ei adnabod fod yn gyfatebiaeth berffaith i glaf sydd angen trawsblaniad mêr esgyrn. Lledaenwch y neges cliciwch yma.

Peswch, annwyd ac iechyd cyffredinol

Dylech fod yn iach i roi gwaed.

 

Dolur annwyd

Gallwch roi gwaed unwaith y bydd y dolur annwyd yn sych ac yn gwella.

Annwyd, peswch, llwnc tost

Efallai y byddwch chi’n gallu rhoi gwaed unwaith y byddwch chi’n gwella. Os ydych chi’n parhau i gael symptomau, bydd y nyrs gofrestredig mewn sesiwn rhoi gwaed yn gallu rhoi asesiad unigol i chi.

Clefyd y gwair ac alergeddau tebyg

Gallwch roi gwaed ar yr amod nad oes gennych unrhyw symptomau, hyd yn oed os ydych chi’n cymryd gwrth-histaminau.

Heintiau eraill

Arhoswch bythefnos ar ôl gwella ac o leiaf saith diwrnod ar ôl gorffen cwrs o wrthfiotigau.

Salwch, dolur rhydd

Gallwch roi gwaed cyhyd â’ch bod chi wedi gwella’n llwyr ers pythefnos neu fwy.

Torri esgyrn

Gallwch roi gwaed pan fydd eich cast plastr wedi ei dynnu a phan fydd unrhyw glwyfau wedi gwella.

Pwysedd gwaed uchel, colesterol uchel

Gallwch roi gwaed tra’n cael eich trin am bwysedd gwaed uchel neu lefelau uchel o golesterol. Os bydd eich meddyginiaeth ar gyfer pwysedd gwaed yn newid, bydd yn rhaid i chi aros o leiaf pedair wythnos cyn rhoi gwaed.

Os ydych chi’n iach, cymerwch ein cwis i weld os ydych chi’n gallu rhoi gwaed.

A gaf i roi gwaed?