Gallai rhywun rydych chi'n ei adnabod fod yn gyfatebiaeth berffaith i glaf sydd angen trawsblaniad mêr esgyrn. Lledaenwch y neges cliciwch yma.

Llawdriniaeth neu archwiliad meddygol

Ar gyfer y rhan fwyaf o lawdriniaethau,

Yn aros am lawdriniaeth

Os ydych chi'n aros am lawdriniaeth, efallai y byddwch chi'n dal i allu rhoi gwaed, ond bydd angen i ni wybod ychydig yn fwy. Cysylltwch â ni i weld p’un a ydych chi’n gymwys cyn trefnu apwyntiad.

Llawdriniaeth twll clo, endosgopi, colonosgopi

Os ydych chi wedi cael archwiliad neu driniaeth sy’n defnyddio sgôp hyblyg, bydd yn rhaid i chi aros am 120 o ddiwrnodau cyn rhoi gwaed.

Os cafodd yr archwiliad ei gynnal yn defnyddio endosgop anhyblyg (e.e. colposcopïau a’r rhan fwyaf o arthroscopïau a phrotoscopïau) a’ch bod yn iach ac nad ydych yn aros am brofion pellach neu ganlyniadau, gallwch roi gwaed.

Llawdriniaeth fawr

Ar gyfer llawdriniaethau mawr, mae’n rhaid i chi aros o leiaf 6 mis cyn rhoi gwaed.

Ni fyddwch yn gallu rhoi gwaed os ydych chi wedi cael trallwysiad gwaed neu’n meddwl eich bod chi wedi cael trallwysiad gwaed ers 1980.

Triniaeth a berfformir y tu allan i'r DU neu Weriniaeth Iwerddon

Ni ddylech roi gwaed am 3 mis ar ôl unrhyw lawdriniaeth a gyflawnir y tu allan i'r DU a Gweriniaeth Iwerddon.

 

Dim yn gallu darganfod beth ydych chi’n edrych amdano ar-lein?

Cysylltwch heddiw