Gallai rhywun rydych chi'n ei adnabod fod yn gyfatebiaeth berffaith i glaf sydd angen trawsblaniad mêr esgyrn. Lledaenwch y neges cliciwch yma.

Meddyginiaeth a salwch

Cyn belled â'ch bod chi’n ffit ac yn iach, efallai y byddwch yn gallu rhoi gwaed tra’n cymryd meddyginiaeth reolaidd.

Gwybodaeth bwysig:

Gwrthfiotigau

Arhoswch bythefnos ar ôl gwella ac o leiaf 7 diwrnod ar ôl cwblhau cwrs o wrthfiotigau cyn rhoi gwaed. Os ydych chi'n cymryd gwrthfiotigau ar gyfer cyflwr croen (e.e. acne), efallai y byddwch chi'n dal i allu rhoi gwaed.

Meddyginiaeth ar gyfer pwysedd gwaed uchel

Gallwch roi gwaed tra’n cymryd meddyginiaeth ar gyfer pwysedd gwaed uchel. Os ydych wedi dechrau cymryd meddyginiaeth ar gyfer pwysedd gwaed uchel yn ddiweddar neu os yw eich dos yn newid, mae'n rhaid aros o leiaf 4 wythnos cyn rhoi gwaed.

Gwrth-histaminau

Gallwch roi gwaed ar yr amod nad oes gennych unrhyw symptomau ar y diwrnod.

Dulliau atal cenhedlu

Gallwch roi gwaed tra’n defnyddio mesurau atal cenhedlu drwy’r geg neu ddulliau atal cenhedlu eraill.

Poenladdwyr

Dylech fod yn gallu rhoi gwaed ar ôl cymryd y meddyginiaethau hyn. Fodd bynnag, mae’n bwysig eich bod yn dal i ddweud wrthym am unrhyw feddyginiaethau rydych chi wedi eu cymryd yn yr ychydig ddyddiau cyn rhoi gwaed.

Ychwanegion haearn

Ni allwch roi gwaed os yw eich meddyg neu nyrs wedi eich cynghori i gymryd ychwanegion haearn.

Pigiadau B12

Gallwch roi gwaed os yw eich triniaeth ar gyfer diffyg fitamin B12 yn cael ei gwblhau, a’ch bod chi nawr, dim ond yn cael pigiadau bob ychydig fisoedd i’w atal rhag digwydd eto.

Other prescribed medications

Ni fyddwch yn gallu rhoi gwaed tra’n cymryd y meddyginiaethau canlynol am swm amrywiol o amser wedyn:

  • Finasteride (Proscar®, Propecia®) a Dutasteride (Avodart®)
  • Acitretin (Neotigason®) ac Isotretinoin (Roaccutane®)
  • Cyffuriau gwrth-thyroid (e.e. Carbimazole)
  • Cyffuriau sy’n atal y system imiwnedd (e.e. Steroidau, Methotrexate)
  • Sodiwm Falproad (Epilim, Episenta) a'r cyffuriau cysylltiedig asid falproig (Depakote, Convulex)

Cyffuriau heb eu rhagnodi/cyffuriau wedi'u chwistrellu

Ni ddylech fyth roi gwaed os ydych chi erioed wedi chwistrellu neu wedi cael eich chwistrellu â chyffuriau sydd heb gael eu rhagnodi; hyd yn oed pe bai'n amser maith yn ôl neu'n digwydd unwaith yn unig.

Dim yn gallu darganfod beth ydych chi’n edrych amdano ar-lein?

Cysylltwch heddiw