Gallai rhywun rydych chi'n ei adnabod fod yn gyfatebiaeth berffaith i glaf sydd angen trawsblaniad mêr esgyrn. Lledaenwch y neges cliciwch yma.

Teithio

Gall teithio y tu allan i’r DU effeithio ar p’un a allwch chi roi gwaed neu beidio. Y rheswm am hyn yw y gallwch ddal rhai heintiau dramor, drwy bigiadau gan fosgito neu bryfed eraill fel arfer.

Os ydych chi wedi teithio neu yn bwriadu teithio dramor, byddwch yn ymwybodol y bydd rhai cyrchfannau yn eich atal chi rhag rhoi gwaed am gyfnod yn dilyn eich ymweliad, gan gynnwys cyrchfannau poblogaidd, fel rhannau o Sbaen neu Ffrainc, a'r Eidal i gyd.

Os rhoddwch enw’r wlad rydych yn bwriadu ymweld â hi, neu wedi ymweld â hi yma, gallwch weld a ydych yn debygol o gael eich gohirio rhag rhoi gwaed neu beidio. Dyma’r Mynegai Perygl Clefydau Daearyddol presennol sydd yn cael ei ddefnyddio gan holl Wasanaethau Gwaed y DU.

Pethau i’w hystyried:

Malaria

Bydd yn rhaid i chi aros 120 diwrnod (4 mis) ar ôl ymweld ag ardal malaria cyn y gallwch roi gwaed. Mae hyn yn berthnasol hyd yn oed os ydych chi wedi cymryd meddyginiaeth gwrthfalaria. ...darllen mwy.

I drafod p’un a oes angen prawf malaria arnoch ar ôl teithio i ran o’r byd neu breswylio mewn rhan o'r byd lle mae malaria yn endemig, neu os ydych chi wedi bod yn sâl gyda malaria, cysylltwch â ni ar 0800 252266.

Feirws Nil y Gorllewin

Os ydych chi wedi mynd i ardal ble mae risg o gael Feirws Nîl y Gorllewin (rhwng 1 Mai a 30 Tachwedd) ac yn rhoi gwaed o fewn 28 diwrnod ar ôl dychwelyd, bydd prawf ychwanegol yn cael ei wneud ar eich rhodd. Byddwn yn rhoi gwybod i chi os fydd y prawf yn bositif.

Os ydych yn mynd yn sâl o fewn 28 diwrnod ar ôl dychwelyd o ardal ble mae risg o gael Feirws Nîl y Gorllewin, rhowch wybod i ni. Byddwch yn cael eich gohirio rhag rhoi gwaed am gyfnod o chwe mis, i leihau'r risg o drosglwyddo Feirws Nîl y Gorllewin i gleifion sy'n derbyn cyfansoddion gwaed. Darllen mwy.

Feirysau Trofannol (Chikungunya, Dengue neu’r Feirws Zika)

Os byddwch yn teithio i ardal lle mae risg o ddal feirws trofannol, bydd yn rhaid i chi aros 28 diwrnod cyn y gallwch roi gwaed. Bydd hyn yn cael ei ymestyn i 6 mis os byddwch yn sâl yn ystod eich ymweliad neu o fewn 28 diwrnod ar ôl gadael yr ardal risg.

Clefyd Chagas

Mae rheolau arbennig yn berthnasol i bobl y ganwyd eu mam yn: ne America; Canol America; neu Fecsico, neu i’r rheini sydd wedi treulio 28 diwrnod neu fwy mewn amodau gwledig cyntefig yno. Gellir trosglwyddo Clefyd Chagas hefyd drwy drallwysiadau gwaed ac o’r fam i’r plentyn yn y groth. Os yw hyn yn berthnasol i chi, cysylltwch â ni ar 0800 252266 i gael asesiad pellach.

Twymyn Gwaedlifol Firaol

Mae twymyn gwaedlifol firaol yn derm cyffredinol ar gyfer salwch difrifol, sydd weithiau yn gysylltiedig â gwaedu, a allai gael ei achosi gan nifer o firysau. Fel arfer, mae’r term yn cael ei ddefnyddio ar gyfer afiechyd sydd yn cael ei achosi gan dwymyn LASSA, twymyn gwaedlifol Crimea-Congo, Twymyn y Dyffryn Hollt ac Ebola. Ni ddylai rhoddwyr sydd â hanes o dwymyn gwaedlifol firaol fyth roi gwaed. Bydd rhoddwyr sydd wedi ymweld ag ardal risg yn cael eu gohirio rhag rhoi gwaed am gyfnod o 6 mis.

Rydym yn gofyn y cwestiynau canlynol hefyd:

  • A gawsoch eich geni dramor?
  • Ydych chi wedi byw neu weithio dramor erioed?
  • Ydych chi wedi cael unrhyw salwch yn ystod neu ar ôl teithio dramor?

Coronafeirws

Math o feirws yw’r feirws corona. Fel grŵp, mae feirysau corona yn gyffredin ar draws y byd.

Mae symptomau nodweddiadol o’r coronafeirws yn cynnwys twymyn a pheswch, a allai symud ymlaen i fod yn niwmonia difrifol sy’n achosi diffyg anadl ac anawsterau anadlu.

Yn gyffredinol, mae coronafeirws yn gallu achosi symptomau mwy difrifol mewn pobl sydd â systemau imiwnedd gwan, pobl hŷn, a’r rheini sydd â chyflyrau hirdymor fel diabetes, canser a chlefyd cronig yr ysgyfaint.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru ac asiantaethau iechyd cyhoeddus eraill y DU i fonitro’r sefyllfa’n ofalus, ac mae mesurau ar waith i ddiogelu iechyd y cyhoedd.

Achosion a heintiau newydd

Gall heintiau newydd ddod i’r amlwg unrhyw bryd, felly gall ein rheolau newid ar fyr rybudd. Os ydych chi wedi bod mewn unrhyw le y tu allan i’r DU yn y 12 mis diwethaf, mae’n syniad da siarad gydag un o’n hymgynghorwyr cyn mynd i glinig.

Dim yn gallu darganfod beth ydych chi’n edrych amdano ar-lein?

Cysylltwch heddiw