Glanhau a sgleinio, llenwadau
Gallwch roi gwaed ar ôl 24 awr.
Triniaeth sianel y gwreiddyn, capio deintyddol (coron), tynnu dannedd
Gallwch roi gwaed ar ôl 7 diwrnod, ar yr amod nad oes gennych unrhyw boen na haint a bod pob clwyf wedi gwella.
Ni ddylech roi gwaed os oes gennych boen ddeintyddol neu’r ddannoedd, a allai gael ei achosi gan haint neu grawniad deintyddol.
Triniaeth a berfformir y tu allan i'r DU neu Weriniaeth Iwerddon
Ni ddylech roi gwaed am 3 mis yn dilyn unrhyw driniaethau deintyddol mewnwthiol a gyflawnir y tu allan i'r DU a Gweriniaeth Iwerddon. Mae triniaethau mewnwthiol yn cynnwys triniaethau sianel y gwreiddyn, capio deintyddol, mewnblaniadau deintyddol a thynnu dannedd.
Efallai y bydd angen i chi aros am fwy o amser cyn rhoi gwaed os bydd y triniaethau deintyddol yn fwy cymhleth.