Darparu gwasanaeth o safon i’n rhoddwyr
Mae ein staff wedi’u hyfforddi i ddilyn yr Egwyddorion Gofalu hyn p’un a oes ganddynt rôl mewn sesiynau rhoi gwaed neu rôl gefnogol yn ein pencadlys.
Rydym yn croesawu barn rhoddwyr ar unrhyw agwedd ar ein gwasanaeth. Rydym yn monitro ansawdd ein gwasanaeth drwy arolygon rheolaidd, sydd ar gael ym mhob sesiwn i’r rhoddwyr eu cwblhau os ydynt yn dymuno rhoi adborth i ni.
Mae gan roddwyr yr hawl i gwyno am unrhyw agwedd ar Wasanaeth Gwaed Cymru a dylid anfon cwynion at Gyfarwyddwr y Gwasanaeth.
Ein Hegwyddorion Gofalu
- Rhoi gofal cwsmeriaid a gofal clinigol rhagorol i chi bob amser y byddwch mewn cysylltiad â’n staff.
- Sicrhau bod sesiynau rhoi gwaed mor hygyrch a chyfforddus â phosibl.
- Rhoi gwybodaeth i chi am y broses o roi gwaed a’r canlyniadau posibl.
- Defnyddio’ch rhodd o waed am ddim er budd cleifion, nid er mwyn creu elw ariannol.
- Rhoi gwybodaeth i’ch helpu i wneud penderfyniad hyddysg cyn rhoi eich caniatâd os byddwn yn gofyn am gael defnyddio eich rhodd gwaed, neu am gymryd samplau gennych, at ddiben penodol.
- Cwblhau’r broses o roi gwaed neu gymryd sampl heb oedi diangen.
- Eich hysbysu am brawf positif ar eich gwaed os bydd yn effeithio ar eich iechyd.
- Meddu ar wybodaeth amdanoch, a’i defnyddio, yn unol ag egwyddorion arweiniol cyfrinachedd ac anghenion Ddeddfwriaeth Diogelu Data.
- Eich hysbysu ymlaen llaw, pryd bynnag y bydd hyn yn bosibl, am newidiadau o ran y meini prawf ar gyfer rhoi gwaed.