Gallai rhywun rydych chi'n ei adnabod fod yn gyfatebiaeth berffaith i glaf sydd angen trawsblaniad mêr esgyrn. Lledaenwch y neges cliciwch yma.

Feirws Nil y Gorllewin

O 1 May 2024 ymlaen, byddwn yn cynnal profion ar gyfer Feirws Nîl y Gorllewin.

Mae ots gennym am eich diogelwch chi ac am ddiogelwch pobl sydd yn derbyn cyfansoddion gwaed. Dyna pam mae Gwasanaeth Gwaed Cymru wedi cyflwyno canllaw i reoli rhoddwyr sydd wedi teithio'n ddiweddar i ardaloedd ble mae risg o gael Feirws Nîl y Gorllewin yn ystod tymor y mosgitos (1 Mai i 30 Tachwedd).

Os ydych chi wedi mynd i ardal ble mae risg o gael Feirws Nîl y Gorllewin ac yn rhoi gwaed o fewn 28 diwrnod ar ôl dychwelyd, bydd prawf ychwanegol yn cael ei wneud ar eich rhodd. Byddwn yn rhoi gwybod i chi os fydd y prawf yn bositif.

Os ydych yn mynd yn sâl o fewn 28 diwrnod ar ôl dychwelyd o ardal ble mae risg o gael Feirws Nîl y Gorllewin, rhowch wybod i ni. Byddwch yn cael eich gohirio rhag rhoi gwaed am gyfnod o chwe mis, i leihau'r risg o drosglwyddo Feirws Nîl y Gorllewin i gleifion sy'n derbyn cyfansoddion gwaed.

Rydym yn deall y gallai hyn fod yn siomedig, ond rydym yn eich annog i roi gwaed unwaith y bydd y cyfnod gohirio yn dod i ben, neu pan fyddwn yn estyn allan atoch yn eich gwahodd i glinig rhoi gwaed lleol.

Cofiwch fod pob rhodd o waed yn bwysig iawn, ac y gallwch helpu i achub bywydau.

Os oes angen unrhyw gyngor arnoch, e-bostiwch donors@wales.nhs.uk neu ffoniwch 0800 252 266 heddiw.

Beth ydy Feirws Nîl y Gorllewin?

Mae Feirws Nîl y Gorllewin yn feirws y gallwch ei ddal mewn llawer o wledydd, ac mae’n cael ei ledaenu gan fosgitos, ac yn achosi haint mewn pobl o’r enw Feirws Nîl y Gorllewin. Mae gan yr haint gyfnod deori o 2-14 diwrnod. Nid oes gan y rhan fwyaf o bobl sydd yn cael eu heintio â Feirws Nîl y Gorllewin unrhyw symptomau. Gall tua 20% o'r rheini sydd yn cael eu heintio gael sbectrwm eang o symptomau sydd ddim yn benodol, sy’n cynnwys:

  • Twymyn/ oerfel
  • Cur pen
  • Gwendid / blinder
  • Teimlo eisiau cysgu
  • Brech ar y croen
  • Cyfog / chwydu/ dolur rhydd
  • Colli archwaeth

Fel arfer, bydd y symptomau'n gwella o fewn 7-10 diwrnod, ond gall y blinder bara am rai wythnosau. Does dim brechlyn i atal y clefyd hwn mewn pobl, a does dim triniaeth benodol ar gyfer haint Feirws Nîl y Gorllewin.

Ers 1999, rydym wedi gweld miloedd o achosion mewn pobl a llawer o farwolaethau y gellir eu priodoli i haint Feirws Nîl y Gorllewin. Dyma pam mae gan y Gwasanaethau Gwaed reolau yn ymwneud â rhoddwyr sydd wedi teithio i ardaloedd ble mae risg yn ystod tymor y mosgitos (Mai i Tachwedd).

 

Yn barod i roi gwaed? Trefnwch apwyntiad i roi gwaed sy'n achub bywydau yn eich ardal chi.

Dechreuwch yma