Mae’r person cyntaf erioed i roi mêr esgyrn yng Nghymru yn galw ar fwy o bobl ifanc 17 i 30 oed i helpu i frwydro yn erbyn canser y gwaed cyn Diwrnod Canser y Byd (dydd Gwener 4 Chwefror).
Bob blwyddyn, ni fydd tri o bob deg o gleifion canser y gwaed yn dod o hyd i rywun y mae eu mêr esgyrn yn cydweddu â nhw ac a allai achub eu bywydau, a dyna pam mae Julie Penketh o Ystrad Mynach a Gwasanaeth Gwaed Cymru yn annog mwy o bobl i ymuno â Chofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru.
Ers rhoi ei bôn-gelloedd dri deg mlynedd yn ôl, mae Julie wedi parhau i annog pobl eraill i ofyn am gael ymuno yn eu sesiynau rhoi gwaed, neu drwy ddychwelyd pecyn swab heb nodwydd, y gallwch ei archebu ar-lein mewn munudau, ac sydd yn gallu cael ei anfon i’ch cartref.