Gallai rhywun rydych chi'n ei adnabod fod yn gyfatebiaeth berffaith i glaf sydd angen trawsblaniad mêr esgyrn. Lledaenwch y neges cliciwch yma.

Pêl-droediwr Tref Aberystwyth yn dathlu Sul y Mamau diolch i roddwyr gwaed

Bydd pêl-droediwr Tref Aberystwyth a’r fam idri Jessica Baker, yn dathlu Sul y Mamau gyda’i mab, ar ôl derbyn trallwysiadau gwaed hanfodol yn ystod genedigaeth.

Collodd Jessica tua 30% o’i gwaed ei hun wrth roi genedigaeth i’w mab Connor saith mlynedd yn ôl, ac roedd angen sawl trallwysiad gwaed brys arni yn Ysbyty Cyffredinol Bronglais, Aberystwyth.

O ganlyniad i dderbyn gwaed, nid yw Jessica bellach yn gallu rhoi gwaed ei hun, a dyna pam mae hi’n awyddus i rannu ei stori a chodi ymwybyddiaeth o’r pwysigrwydd o roi gwaed.

“Dwi eisiau rhannu fy stori a chodi ymwybyddiaeth am y ffaith bod angen rhoddwyr gwaed bob amser i achub bywydau pobl, ac rwy’n brawf o hyn. Oherwydd rhoddwyr gwaed, roeddwn yn gallu gwella’n llwyr. Nawr, dwi’n gallu chwarae pêl-droed gyda fy mab fel bod dim erioed wedi digwydd.

“Roedd gweld Connor yn tyfu i fyny a chael ei ddewis ar gyfer tîm yr academi dan wyth oed yn un o eiliadau mwyaf balch fy mywyd. Buaswn yn annog unrhyw un sy’n ystyried rhoi gwaed i wneud hynny. Mae’n achub bywydau.”

“Mae Sul y Mamau yn ddiwrnod arbennig iawn i mi. Dwi yma heddiw oherwydd y trallwysiadau gwaed sy’n achub bywydau a gefais pan gafodd fy mab ei eni. Mae rhoi gwaed yn beth mor garedig i’w wneud, a byddaf bob amser yn ddiolchgar i’r rheini a wnaeth fy helpu."

Jessica Baker

Mae gwaed a’i is-gynhyrchion yn chwarae rhan hanfodol wrth achub bywydau, gan gynnwys helpu dioddefwyr damweiniau ac achosion brys, cleifion sy’n cael trawsblaniadau organau, mamau a babanod yn ystod genedigaeth, a chleifion canser fel rhan o’u triniaeth cemotherapi.

Nod Gwasanaeth Gwaed Cymru ydy casglu tua 100,000 o roddion gwaed gan tua 70,000 o roddwyr gwirfoddol bob blwyddyn. Er mwyn helpu i annog mwy o bobl yng Nghymru i roi gwaed, mae gan Wasanaeth Gwaed Cymru sawl menter, gan gynnwys partneriaeth â Chynghreiriau JD Cymru Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Chynghreiriau Genero Adran. Mae eu hymgyrch ‘Gwaed, Chwys ac Iechyd Da’ yn bwriadu helpu tuag at nod Gwasanaeth Gwaed Cymru o gyflwyno 11,000 o roddwyr gwaed newydd yn 2022.

Gwaed, Chwys a Iechyd Da!

Rydym wedi ymuno â Chynghreiriau JD Cymru Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Genero Adran i lansio ymgyrch newydd sbon 'Gwaed, Chwys a Iechyd Da!' i annog cefnogwyr pêl-droed i roi gwaed.

Darllen Mwy
Footballers running for ball

“Yn anffodus, mae straeon fel un Jessica yn llawer rhy gyffredin, ac yn enghraifft glir o pam fod rhoddion gwaed mor bwysig. I’w roi yn syml, does dim all gymryd lle rhoi gwaed."

Alan Prosser, Dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwaed Cymru

“Bob dydd, mae angen i ni gasglu tua 350 o roddion gwaed i gyflenwi digon o waed a chynhyrchion gwaed i gleifion mewn angen mewn 20 ysbyty. Mae cael cefnogaeth clybiau, chwaraewyr fel Jessica a chefnogwyr wedi ein helpu tuag at y ffigurau hyn, ond mae angen mwy o bobl arnom i ymuno â’n tîm o achubwyr bywyd.

“Os ydych chi erioed wedi meddwl am roi gwaed, mae nawr yn amser gwych i roi cynnig arni. Diolch i’r rheini sydd wedi rhoi gwaed, bydd mwy o feibion, merched ac anwyliaid yng Nghymru yn gallu dathlu Sul y Mamau gyda’i gilydd.”

Dewch o hyd i'ch sesiwn rhoi gwaed agosaf.