Ar hyn o bryd, mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn casglu, yn prosesu ac yn profi gwaed, ac yn ei gyflenwi i ysbytai yng Nghymru.
Ar 2 Mai 2016, daethom yn wasanaeth cenedlaethol, a dechreuom gasglu gwaed yng Ngogledd Cymru. Cyn hyn, roedd y gwasanaeth yn gwasanaethu Canolbarth, De a Gorllewin Cymru.
Dyma sut mae’r gwasanaeth yn gweithredu nawr ein bod yn wasanaeth cenedlaethol:
1. Byddwn yn ehangu ac yn cynyddu’r gweithgarwch casglu gwaed presennol yng Ngogledd Cymru er mwyn ateb y galw gan ysbytai yng Nghymru.
2. Bydd dau dîm casglu wedi’u lleoli yn y Dwyrain a’r Gorllewin (Gogledd Cymru), a fydd yn cynnal cyfuniad o sesiynau rhoi gwaed cymunedol a symudol.
3. Caiff y gwaed a gesglir o sesiynau’r clinigau ei gludo i Uned Storio Stoc yn ardal Wrecsam.
4. Caiff y rhoddion a’r samplau a gesglir eu cludo i bencadlys Gwasanaeth Gwaed Cymru yn Nhonysguboriau i’w prosesu.
5. Caiff y cynhyrchion gwaed a broseswyd eu dychwelyd i’r Uned Storio Stoc yn ardal Wrecsam i’w dosbarthu ymysg ysbytai Gogledd Cymru.