Mae'r rheolau ynghylch rhoi gwaed yn dibynnu ar p'un a ydych chi erioed wedi rhoi gwaed o'r blaen.
O dan 17 oed
Gallwch ddod yn rhoddwr gwaed cyn gynted ag y byddwch yn cyrraedd eich pen-blwydd yn 17 oed.
Rhwng 17 a 66 oed
Gallwch ddechrau rhoi gwaed unrhyw bryd hyd at a gan gynnwys eich pen-blwydd yn 66 oed.
Rhwng 66 a 72 oed
Os ydych wedi rhoi o leiaf un rhodd gwaed gyflawn o'r blaen, hyd yn oed os oedd beth amser yn ôl neu y tu allan i Gymru, gallwch roi gwaed hyd at eich pen-blwydd yn 72 oed.
Dros 72 oed
Does dim terfyn oedran uwch ar gyfer rhoi gwaed ar ôl eich pen-blwydd yn 72 oed, cyn belled â’ch bod chi’n iach â’ch bod chi wedi rhoi gwaed yn llwyddiannus yn y ddwy flynedd ddiwethaf.