Gallai rhywun rydych chi'n ei adnabod fod yn gyfatebiaeth berffaith i glaf sydd angen trawsblaniad mêr esgyrn. Lledaenwch y neges cliciwch yma.

Salwch difrifol

Mae cyflyrau cyffredin sy’n golygu nad ydych chi’n gallu rhoi gwaed yn cynnwys:

  • Clefyd y galon
  • Canser
  • Strôc
  • Clefyd y coluddyn llidiol
  • Clefyd cronig yr ysgyfaint (heblaw asthma)
  • Syndrom blinder cronig

Dim yn gallu rhoi gwaed? Rydym eich angen chi o hyd.

Rhagor o wybodaeth

Gwybodaeth bwysig arall:

Pwysedd gwaed uchel, colesterol uchel

Gallwch roi gwaed tra’n cael eich trin am bwysedd gwaed uchel neu lefelau uchel o golesterol. Os bydd eich meddyginiaeth yn newid, bydd yn rhaid i chi aros o leiaf pedair wythnos cyn rhoi gwaed.

Clefyd siwgr

Gallwch roi gwaed os oes gennych ddiabetes, ar yr amod nad yw’r diabetes wedi achosi unrhyw gymhlethdodau ac nad oes angen triniaeth inswlin arnoch. Os bydd eich meddyginiaeth yn newid, bydd yn rhaid i chi aros o leiaf pedair wythnos cyn rhoi gwaed.

Bydd rhoi gwaed yn gostwng eich lefel HbA1c (hemoglobin glycedig). Mae’r prawf gwaed hwn yn cael ei ddefnyddio i fonitro eich rheolaeth ddiabetig, felly dylech roi gwybod i'ch tîm diabetig fel y gellir ystyried hyn wrth adolygu eich lefel HbA1c. Am y rheswm hwn, dylid rhoi gwaed yn ddelfrydol ar ôl profion HbA1c.

Dim yn gallu darganfod beth ydych chi’n edrych amdano ar-lein?

Cysylltwch heddiw