Gwybodaeth bwysig:
Profion sgrinio rheolaidd
Gallwch roi gwaed ar ôl prawf sgrinio rheolaidd e.e. sgrinio ar gyfer colesterol, prawf ceg y groth, mamogram
Endosgopi, colonosgopi
Rhaid i chi aros 120 diwrnod ar ôl unrhyw brawf sy’n defnyddio sgôp hyblyg, hyd yn oed os yw’r canlyniadau’n glir.
Profion neu archwiliadau eraill
Ni allwch roi gwaed nes eich bod wedi cael canlyniadau eich prawf neu ddiagnosis gan eich meddyg neu nyrs.
Os credwch y gallai canlyniadau eich prawf effeithio ar eich cymhwysedd i roi gwaed, cysylltwch â ni.