Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru wedi ymrwymo i helpu'r Ymchwiliad Gwaed Heintiedig i ddod o hyd i wirionedd a chyfiawnder i bawb a effeithiwyd mor drasig.
Gallai rhywun rydych chi'n ei adnabod fod yn gyfatebiaeth berffaith i glaf sydd angen trawsblaniad mêr esgyrn. Lledaenwch y neges cliciwch yma.
Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru wedi ymrwymo i helpu'r Ymchwiliad Gwaed Heintiedig i ddod o hyd i wirionedd a chyfiawnder i bawb a effeithiwyd mor drasig.
Datganiad gan Steve Ham, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, lle y mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn wasanaeth cenedlaethol gweithredol. Darllen ymlaen.
Mae'r Ymchwiliad Gwaed Heintiedig yn ymchwiliad statudol cyhoeddus annibynnol a sefydlwyd i archwilio'r amgylchiadau lle cafodd dynion, menywod a phlant a gafodd eu trin gan wasanaethau iechyd gwladol yn y DU gan waed heintiedig a chynhyrchion gwaed heintiedig, yn enwedig yn y 1970au, 80au a’r 90au cynnar.
Cymerodd yr Ymchiliad dystiolaeth lafar o 2019-2023.
Cyhoeddwyd Adroddiad yr Ymchwiliad ar 20 Mai 2024. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am waith yr Ymchwiliad yma.
Cafodd Gwasanaeth Gwaed Cymru ei sefydlu fel Gwasanaeth Cymru gyfan yn 2016 i ddarparu gwasanaeth gwaed a thrawsblannu cenedlaethol i'r Gwasanaeth Iechyd Genedlaethol yng Nghymru. Cyn 2016, roedd gwasanaethau'r gogledd a'r de ar wahân ac yn atebol i wahanol awdurdodau. Trosglwyddwyd atebolrwydd am wasanaeth gwaed de Cymru i Lywodraeth Cymru sydd newydd ei datganoli ym 1999. Cafodd gwasanaethau gwaed ar gyfer rhanbarth gogledd Cymru eu darparu gan y National Blood and Transplant Service tan 2016 pan sefydlwyd un gwasanaeth ar gyfer Cymru gyfan.
Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn darparu triniaethau achub bywyd a gwella bywyd o waed, bôn-gelloedd ac ystod o wasanaethau diagnostig a therapiwtig cysylltiedig i bobl Cymru a thu hwnt. Heddiw, rydym yn gyfrifol am gasglu, cynhyrchu a dosbarthu hyd at 100,000 o gydrannau gwaed achub bywyd y flwyddyn i ysbytai Cymru a'u cleifion sy'n dibynnu arnom.
Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn adran weithredol o Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre. Gallwch ddarllen mwy am Wasanaeth Gwaed Cymru a sut mae'n gweithio yma.
Ein cenhadaeth yw cael ein cydnabod gan bobl Cymru a'n cyfoedion fel arweinydd mewn gwasanaethau trawsblannu a thrallwysiad.
Rydym wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ein gallu i helpu i chwilio am wirionedd a chyfiawnder i bawb, gyda gonestrwydd a thryloywder o'r cychwyn cyntaf. Gwnaethom hyn drwy lofnodi'r Siarter ar gyfer Teuluoedd mewn profedigaeth trwy Drasiedi Cyhoeddu yma.
Roeddem yn gyfranogwr allweddol yn ystod yr ymchwiliad. Cliciwch yma i ddarganfod mwy am yr hyn y mae bod yn gyfranogwr craidd yn ei olygu a'r rhestr o gyfranogwyr craidd ar gyfer yr Ymchwiliad Gwaed Heintiedig.
Fel rhan o'u hymarfer casglu tystiolaeth, ymwelodd yr Ymchwiliad â Gwasanaeth Gwaed Cymru i ganfod pa wybodaeth a ddaliwyd a pha ddogfennau oedd yn bwysig i'w helpu i ddeall sut roedd y gwasanaeth yn gweithredu yn ystod y cyfnod dan sylw. Darparwyd unrhyw ddogfennau y gofynnwyd amdanynt gan yr Ymchwiliad ynghyd â thystiolaeth arall.
Hefyd, darparodd Gwasanaeth Gwaed Cymru ac Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre ddatganiadau i'r Ymchwiliad i ateb nifer o gwestiynau oedd ganddynt, gan gynnwys sut mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn gweithredu heddiw. Darparodd y pedwar gwasanaeth gwaed yn y Deyrnas Unedig wybodaeth a thystiolaeth i'r Ymchwiliad.
I ddeall sut roedd y gwasanaeth yn gweithredu yn y gorffennol, rhoddodd gweithwyr presennol a chyn-weithwyr dystiolaeth i'r Ymchwiliad. Gallwch ddarllen tystiolaeth a gyflwynwyd gan Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre a Gwasanaeth Gwaed Cymru drwy glicio ar y dolenni isod:
Tachwedd 2018, Prif Swyddog Gweithredol, Datganiad Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre
Hydref 2021, Prif Swyddog Gweithredu, Datganiad Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre
Hydref 2021, Datganiad Ysgrifenedig, Cyn Gyfarwyddwr Meddygol, Gwasanaeth Gwaed Cymru
Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn ymdrechu i ddarparu'r profiad gorau posibl i'n rhoddwyr a chleifion, ac mae'n darparu gwasanaethau labordy, diagnostig a thrawsblannu diogel, modern ac effeithlon o ansawdd uchel.
Mae safonau diogelwch yn drylwyr ac wedi gwella'n fawr ers y digwyddiadau trasig sy'n destun yr Ymchwiliad.
Mae gan Gymru un o'r cadwyni cyflenwi gwaed mwyaf diogel yn y byd. Mae pob rhodd unigol yn destun i broses brofi gynhwysfawr cyn i'r gwaed gael ei roi i ysbytai. Cliciau yma i ddarllen mwy am sut mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn profi gwaed.
Rydym yn gweithio'n agos gyda phartneriaid yn y DU ac yn rhyngwladol i fonitro ac ymateb yn gyflym i unrhyw faterion sy'n dod i'r amlwg er budd rhoddwyr a chleifion. Rydym yn cael ein harolygu'n rheolaidd gan reoleiddwyr annibynnol ac yn dilyn canllawiau a chyngor gan bwyllgorau a chyrff arbenigol, y mae gan lawer ohonynt gynrychiolwyr rhoddwyr neu gleifion fel aelodau.
Mae gwasanaethau gwaed a diogelwch gwaed wedi cael eu trawsnewid nid yn unig o ran datblygiadau technolegol ond hefyd yn y ffordd yr ydym yn recriwtio ac yn sicrhau bod rhoddwyr yn ddiogel i roi gwaed.
Caiff pob rhoddwr gwaed ei sgrinio cyn pob rhodd a phrofir eu gwaed yn ein labordai cyn iddo gael ei anfon i ysbytai.
Gan dderbyn na fydd rhoi gwaed a thrallwysiad byth heb risg, rydym yn hyderus bod y systemau sydd ar waith heddiw a'n cynlluniau i weithredu argymhellion yr Ymchwiliad yn golygu y gallwn fod yn hyderus na allai'r camau a ystyriwyd gan yr Ymchwiliad ddigwydd eto.
Efallai y bydd y dolenni isod yn ddefnyddiol i chi:
Gallwch ddarganfod mwy am Gynllun Cymorth Gwaed Heintiedig Cymru drwy ymweld â'u gwefan yma.
Gallwch hefyd gysylltu â nhw drwy:
Dewch o hyd i atebion i gwestiynau cyffredin am yr Ymchwiliad a'i waith yma.