“Doedd neb yn meddwl y byddai Luca yn goroesi y penwythnos hwnnw. Ar amrantiad, roedd y dyfodol yr oeddem wedi’i gynllunio wedi’i rwygo,” meddai Rebecca Park, mam i Luca, pedair oed, sydd wedi bod yn brwydro yn erbyn tiwmor llinyn asgwrn cefn prin ac ymosodol ers pan oedd ond yn 15 wythnos oed.
Y Nadolig hwn, mae Rebecca yn rhannu stori ei mab, Luca, i ddiolch i bawb sydd erioed wedi rhoi gwaed neu blatennau ac i godi ymwybyddiaeth o ba mor bwysig yw’r rhoddion hyn i gleifion ledled Cymru. Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn tynnu sylw at stori Luca fel rhan o'u hymgyrch 'Gweld yw Credu', lle bydd rhoddwyr yn dechrau derbyn negeseuon pan fydd eu rhoddion yn cael eu rhoi i ysbytai Cymru i helpu i amlinellu gwir angen y rhoddion hanfodol hyn bob dydd.