Bob blwyddyn, mae dros 50,000 o gleifion ar draws y byd yn gobeithio dod o hyd i rywun addas y mae eu mêr esgyrn yn cydweddu â nhw gan roddwr sydd ddim yn perthyn. Mae hyn yn ystadegyn y mae Laura, gyda chymorth Cofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru, yn gobeithio ei newid.
Meddai Christopher Harvey, Pennaeth Cofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru:
"I glaf fel Laura, mae dod o hyd i roddwr sy’n cydweddu ar y Gofrestr yn amhrisiadwy, ond nid yw pawb mor lwcus â Laura. Mae angen mwy o wirfoddolwyr rhwng 17 a 30 oed i gofrestru ar gyfer y Gofrestr.
"Mae cofrestru yn haws nag erioed. Gallwch ofyn am becyn swab heb adael eich cartref drwy wefan Gwasanaeth Gwaed Cymru, neu drefnu apwyntiad i roi gwaed a holi am ymuno pan fyddwch yn rhoi gwaed."
Cafodd Laura ei thrawsblaniad mêr esgyrn yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, o dan Dr Keith Wilson, Haematolegydd Ymgynghorol a Chyfarwyddwr Rhaglen Trawsblannu Gwaed a Mêr Esgyrn De Cymru.
Meddai Dr Wilson: "I lawer o gleifion sydd â chanser y gwaed, mae trawsblaniad mêr esgyrn yn cynrychioli eu hunig ffordd o oresgyn yr afiechyd. Dim ond un o bob pedwar claf fydd yn dod o hyd i rywun addas sy’n aelod o'r teulu, sy'n golygu bod y rhan fwyaf o gleifion, gan gynnwys Laura, yn dibynnu ar roddion gan wirfoddolwyr sydd ddim yn perthyn ar gofrestri ar draws y byd.