Cafodd Simona Dubas, mam o Gasnewydd, ddiagnosis o ganser yn 27 oed. Bellach wedi gwella'n llwyr, yn dilyn trawsblaniad bôn-gelloedd llwyddiannus, mae Simona yn annog mwy o bobl ifanc ledled Cymru i ymuno â Chofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru ar Ddiwrnod Canser Gwaed y Byd (28 Mai).
Pan oedd ei mab Frank yn ddim ond pedair oed, darganfu Simona fod ganddi ganser y gwaed a elwir yn lewcemia myeloid acíwt. Ar ôl tair rownd aflwyddiannus o gemotherapi dwys, cafodd Simona drawsblaniad bôn-gelloedd a achubodd ei bywyd yn 2018 ar ôl dod o hyd i roddwr benywaidd a oedd yn cydweddu’n berffaith o'r Almaen.