Rydych chi wedi rhoi rhodd a allai achub bywydau. Ar ran cleifion ar draws Cymru, diolch.
Nawr, beth sy'n digwydd gyda'ch rhodd?
Cyn bo hir, bydd eich rhodd yn cael ei danfon i un o'n hysbytai ar draws Cymru i'w defnyddio mewn trallwysiad sydd yn gallu achub bywydau. Mae gan eich rhodd y pŵer i achub tri bywyd. Efallai y byddwch hyd yn oed yn cael neges gennym ni yn dweud wrthych pa ysbyty sydd wedi derbyn eich rhoddion celloedd coch neu blatennau.
Gellid defnyddio eich rhodd i helpu i drin claf canser, rhywun sydd wedi dioddef anaf trawmatig, neu gallai gael ei rhoi i fam yn ystod genedigaeth.
Ar ôl i chi roi gwaed, dyma beth sy’n digwydd i'ch rhodd i sicrhau ei bod yn ddiogel, wedi'i phrosesu ac yn barod i helpu rhywun mewn angen.