Rydym yn galw ar redwyr amatur a phroffesiynol ar draws Cymru i ddod yn rhoddwyr gwaed sy'n achub bywydau drwy ymgyrch newydd gan Wasanaeth Gwaed Cymru, Athletau Cymru a Run 4 Wales.
Through the ‘Mae Rhoi yn Rhedeg yn eich Gwaed‘ campaign, runners across Wales are being urged to support blood donation as part of their training programme and make a lifesaving difference to patients in need.
Bydd y bartneriaeth newydd yn gweld rhoddion gwaed, platennau a mêr esgyrn yn cael eu hyrwyddo mewn nifer o ddigwyddiadau eiconig, gan gynnwys rasys rhedeg ar y ffordd Run 4 Wales, a’r pencampwriaethau cenedlaethol sydd ar y gweill gan Athletau Cymru.
Meddai Alan Prosser, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwaed Cymru: “Rydym wrth ein bodd yn gweithio gydag Athletau Cymru a Run 4 Wales. Maen nhw’n dweud nad ydych chi byth yn difaru mynd i redeg, ac rydyn ni’n gwybod bod yr un peth yn wir am roi gwaed, a dyna pam rydyn ni’n gobeithio ysbrydoli rhedwyr ar draws y wlad, gyda’n gilydd, i’n helpu i gyrraedd cynulleidfa newydd o roddwyr posibl.
“Gyda Gemau Olympaidd Tokyo yn agosau, ni fu erioed amser gwell i gefnogi’r ymgyrch hon. Boed yn rhedwr profiadol neu’n chwilio am eich esgidiau rhedeg yng nghefn y cwpwrdd, cymerwch ran drwy redeg ar hyd ein llwybrau siâp calon a dod draw i’ch sesiwn rhoi gwaed agosaf.”
Dywedodd James Williams, Prif Swyddog Gweithredol Athletau Cymru: “Mae Athletau Cymru yn falch iawn o fod yn bartner cymunedol i Wasanaeth Gwaed Cymru, ac rwy’n siŵr y bydd ein clybiau grwpiau rhedeg niferus, a’u haelodau ar draws Cymru yn awyddus i gefnogi eu gwaith hanfodol.
Fel y gamp gyfranogi fwyaf yng Nghymru, gallwn chwarae ein rhan i sicrhau bod mwy o bobl yn cofrestru i roi rhoddion gwaed, platennau a mêr esgyrn sy’n achub bywydau.”
Meddai Matt Newman, Prif Weithredwr Run 4 Wales: “Rydym yn angerddol am iechyd a lles y genedl, felly rydym yn naturiol yn falch iawn o fod yn gweithio gyda Gwasanaeth Gwaed Cymru ar ymgyrch mor bwysig.”
"Mae gennym rywfaint o weithgareddau cyffrous wedi’u cynllunio, ac rydym yn edrych ymlaen i weld yr effaith gadarnhaol y bydd yn ei chael ar y lefelau rhoi gwaed ar draws y wlad.”
Mae rhoi gwaed yn cael ei ystyried yn wasanaeth hanfodol, ac mae sesiynau rhoi gwaed wedi parhau ar draws Cymru drwy gydol y pandemig, gyda mesurau diogelwch ychwanegol yn cael eu cyflwyno i fodloni canllawiau Llywodraeth Cymru.