"Rwy'n falch fy mod i wedi gallu mynd â fy mrawd iau i roi gwaed am y tro cyntaf hefyd, ac ochr yn ochr â fy mam, byddwn yn parhau i roi gwaed fel teulu."
Aeth awydd Shaun, sy’n rhedwr brwd, i hyrwyddo rhoi gwaed y tu hwnt i'r gadair rhoi gwaed yn ddiweddar hefyd, wrth iddo ddarganfod menter Gwasanaeth Gwaed Cymru o’r enw 'Mae Rhoi yn Rhedeg yn eich Gwaed’.
Roedd Shaun yn un o dri athletwr amatur a sicrhaodd le gyda 'Gwasanaeth Gwaed Cymru' yn y ras 10k yng Nghasnewydd yn ddiweddar. Addawodd bob un o’r rhedwyr i helpu i godi ymwybyddiaeth am bwysigrwydd rhoddion gwaed a gobeithio, ysbrydoli rhoddwyr newydd i gofrestru hefyd.
Lansiwyd y fenter 'Mae Rhoi yn Rhedeg yn Eich Gwaed' gyda chefnogaeth Run4Wales ac Athletau Cymru, partneriaid cymunedol diweddaraf Gwasanaeth Gwaed Cymru. Mae'r tri sefydliad wedi ymuno i annog rhedwyr amatur a phroffesiynol ar draws Cymru i roi rhoddion gwaed sy'n achub bywydau.