Gallai rhywun rydych chi'n ei adnabod fod yn gyfatebiaeth berffaith i glaf sydd angen trawsblaniad mêr esgyrn. Lledaenwch y neges cliciwch yma.

Rhedwr o Aberhonddu yn galw ar y gymuned redeg i achub bywydau drwy roi gwaed

Rhedwr o Aberhonddu yn galw ar y gymuned redeg i achub bywydau drwy roi gwaed.

Mae Helen Kendrick, rhoddwr gwaed a rhedwr ymroddedig, wedi bod yn rhoi gwaed am ugain mlynedd, ac wedi rhoi mwy na 30 o roddion gwaed. Nawr mae Helen yn cefnogi ‘Giving Runs in Your Blood’, sef ymgyrch gan Wasanaeth Gwaed Cymru, Athletau Cymru a Run 4 Wales, sydd â’r nod o ysbrydoli rhedwyr i achub bywydau drwy roi gwaed.

Cafodd cynlluniau Helen i redeg Hanner Marathon Caerdydd eu gohirio tra roedd hi’n cefnogi ei thad, a ddechreuodd dderbyn trallwysiadau gwaed ar ôl cael diagnosis o ganser. Bedair blynedd yn ddiweddarach, mae Helen yn bwriadu rhedeg ei hanner marathon cyntaf er cof am ei thad.

Dywedodd Helen, 45: “Yn anffodus roedd gan Dad myelodysplasia, sy’n fath o ganser y gwaed. Diolch i garedigrwydd rhoddwyr gwaed, fe wnaethom dreulio amser ychwanegol gwerthfawr gyda fy nhad, rhywbeth y byddwn ni fel teulu bob amser mor ddiolchgar amdano. Fel teulu, rydym yn gwybod pa mor bwysig yw rhoi gwaed a’r gwahaniaeth mae’n ei wneud ar adeg heriol iawn.

Helen Kendrick

“Mae rhoi gwaed yn gyflym, yn hawdd, ac yn gallu achub bywyd rhywun yn llythrennol. Gallai eich rhodd gwaed gyntaf fod yn frawychus, ond mae nyrsys Gwasanaeth Gwaed Cymru yn creu amgylchedd hamddenol i roddwyr bob amser.

“Dydych chi ddim yn gwybod beth sydd rownd y gornel, felly cyn belled â fy mod yn ffit ac yn abl, byddaf yn rhoi gwaed. Gall pob un ohonom wneud hyn. Dyw e ddim yn costio unrhyw beth, heblaw am ein hamser, ac rydyn ni’n lwcus i gael hynny.”

Dydy helpu'r rheini sydd â chanser y gwaed erioed wedi bod yn haws.

17-30 oed? Cofrestrwch heddiw

Bob dydd, mae cleifion yn dibynnu ar haelioni pobl eraill i ddarparu tua 350 o roddion gwaed gyda Gwasanaeth Gwaed Cymru. Er mwyn helpu i gyrraedd y targed hwn, mae’r gymuned rhedeg yn cael ei hannog i hyrwyddo pwysigrwydd rhoi gwaed drwy redeg llwybrau ‘siâp calon’ a threfnu eu rhodd gwaed eu hunain drwy’r ymgyrch newydd.

Ychwanegodd Helen: “Rwy’n gobeithio drwy rannu fy stori, y bydd yn ysbrydoli eraill i ystyried rhoi gwaed. Dydych chi ddim yn sylweddoli pa mor bwysig yw hi nes i chi neu rywun rydych chi’n ei garu fod ei angen.”

Mae rhoi gwaed yn cael ei ystyried yn wasanaeth hanfodol, ac mae sesiynau rhoi gwaed wedi parhau i gael eu rhedeg ar draws Cymru drwy gydol y pandemig, gyda mesurau diogelwch ychwanegol yn cael eu cyflwyno i fodloni canllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer rhoddwyr sy’n mynychu.

Os ydych chi'n 17 oed neu'n hŷn, darganfyddwch os allwch chi roi rhodd o waed a allai achub bywydau

Gwnewch apwyntiad heddiw