Gallai rhywun rydych chi'n ei adnabod fod yn gyfatebiaeth berffaith i glaf sydd angen trawsblaniad mêr esgyrn. Lledaenwch y neges cliciwch yma.

Rhedwyr yn dod at ei gilydd i achub dros 700 o fywydau

Mae rhedwyr amatur a phroffesiynol ar draws Cymru yn annog pobl i helpu cleifion sydd mewn angen drwy roi gwaed, platennau neu fêr esgyrn gyda Gwasanaeth Gwaed Cymru, fel rhan o'r ymgyrch #GivingRunsInYourBlood.

Mae'r ymgyrch, a lansiwyd gyda dau o'r sefydliadau rhedeg cenedlaethol mwyaf amlwg, Run 4 Wales ac Athletau Cymru, yn gwneud gwahaniaeth i gannoedd o fywydau ar draws Cymru.

Mae clybiau rhedeg o Fôn i Sir y Fflint, a Chas-gwent i Aberteifi, wedi bod yn rhedeg llwybrau siâp calon, yn rhoi gwaed, ac yn rhannu straeon am y gwahaniaeth mae rhoi gwaed wedi'i wneud i bobl mewn angen.

Heart running route - Swansea
Heart running route - Bala
Heart running route - Bangor
Heart running route - Cardiff
Heart running route - Newport
Heart running route - Bridgend

Eich llwybr

Boed yn rhedwr proffesiynol yn eich clwb rhedeg lleol neu'n ceisio dod o hyd i’ch esgidiau ymarfer yn nhu ôl y cwpwrdd, cymerwch ran drwy ddilyn un o'n llwybrau siâp calon, y gallwch eu gweld ar draws sawl cymuned yng Nghymru, a thrwy ddod draw i'ch sesiwn rhoi. gwaed agosaf.

Profodd y cyn glaf a rhedwr Cowbridge Moovers, Gethin Charles, fanteision rhoi gwaed o lygad y ffynnon, gan dderbyn dros 30 uned o gelloedd coch a phlatennau. Cafodd y dyn 46 oed o'r Bont-faen ddiagnosis o anemia aplastig y llynedd, sef anhwylder gwaed prin a difrifol sy'n effeithio ar tua 150 o bobl bob blwyddyn yn y DU.

Meddai Gethin: "Mae'n bwysig iawn i bobl roi gwaed oherwydd fyddwch chi byth yn gwybod pryd y byddwch chi neu'ch teulu ei angen." "Doeddwn i erioed yn meddwl y buaswn i yn y sefyllfa yma lle mae angen i mi dderbyn gwaed a chynhyrchion gwaed. Digwyddodd y cyfan mor gyflym. "Dwi mor falch bod yna bobl sydd wedi rhoi gwaed, gan ei fod wedi gwneud fy mywyd yn fwy cyfforddus yn cael y driniaeth dwi ei hangen i wella'r clefyd."

Gethin Charles

Dydy helpu'r rheini sydd â chanser y gwaed erioed wedi bod yn haws.

17-30 oed? Cofrestrwch heddiw

Mae gwaed a'i sgil-gynhyrchion yn chwarae rhan hanfodol wrth achub bywydau bob dydd, gyda rhoddion yn helpu cleifion mewn damweiniau neu argyfyngau, cleifion sy’n cael trawsblaniadau organau, cleifion lewcemia a chleifion canser, a mamau a babanod yn ystod genedigaeth.

Dywedodd Prif Weithredwr Athletau Cymru, James Williams: "Mae’r ymgyrch #GivingRunsInYourBlood wedi annog clybiau rhedeg a rhedwyr ar draws Cymru i wneud gwahaniaeth go iawn drwy gymryd rhan.

"Rydym wrth ein bodd bod ein partneriaeth gymunedol gyda Gwasanaeth Gwaed Cymru wedi helpu i achub dros 700 o fywydau o bosibl."

"Mae wedi dangos ysbryd go iawn ar draws y gymuned redeg a thu hwnt."

Wrth i gyfyngiadau yn sgil y pandemig barhau i lacio, mae rhedwyr wedi dathlu bod digwyddiadau cystadleuol yn dychwelyd hefyd, gan gynnwys Pencampwriaethau Athletwyr Hŷn Cymru ac Hanner Marathon Caerdydd, Run4Wales.

Dywedodd Prif Weithredwr Run4Wales, Matt Newman: "Wrth i fwy o ddigwyddiadau ddychwelyd ar draws Cymru, rydym yn gobeithio y bydd yr ymgyrch yn parhau i dyfu, ac yn ysbrydoli llawer mwy i fod yn achubwyr bywyd.

"Rydym yn frwd dros iechyd a lles y genedl, felly mae'n wych gweld cannoedd o redwyr yn cael eu hysbrydoli gan yr ymgyrch #GivingRunsInYourBlood, ac yn camu ymlaen fel rhoddwyr neu gefnogwyr."

Prif Weithredwr Run4Wales, Matt Newman

Bob dydd, rhaid i Wasanaeth Gwaed Cymru gasglu 350 o roddion gwaed i gyflenwi ein 20 o ysbytai gyda digon o waed i gleifion.

Wrth siarad am y bartneriaeth, dywedodd Alan Prosser, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwaed Cymru: "Diolch i'r gefnogaeth gan y gymuned redeg, rydyn ni wedi llwyddo i gynnal stociau gwaed mewn ysbytai ar adeg dyngedfennol yn hanes y Gwasanaeth.

"Rydyn ni'n hynod ddiolchgar i bobl fel Gethin, y clybiau a'r holl athletwyr am ein cefnogi ni, ac rydym yn gyffrous o weld sut fydd y bartneriaeth yn datblygu yn y dyfodol.

Gyda 1,300 o sesiynau rhoi gwaed mewn dros 100 o leoliadau gwahanol ar draws Cymru bob blwyddyn, mae digon o gyfleoedd i bobl ddod o hyd i’w sesiwn agosaf, a gwneud gwahaniaeth.

Aeth Alan ymlaen i ddweud: Os nad ydych chi erioed wedi rhoi gwaed, mae nawr yn amser gwych i roi cynnig arni.

Os ydych chi'n 17 oed neu'n hŷn, darganfyddwch os allwch chi roi rhodd o waed a allai achub bywydau

Gwnewch apwyntiad heddiw