Gallai rhywun rydych chi'n ei adnabod fod yn gyfatebiaeth berffaith i glaf sydd angen trawsblaniad mêr esgyrn. Lledaenwch y neges cliciwch yma.
Mae'r daith i drefnu sesiwn rhoi gwaed yn Ysgol Gymunedol Tonyrefail wedi cymryd mwy na 25 mlynedd i’r person y tu ôl iddi, sef Shula Gunter, sydd wedi bod yn gweithio fel athrawes Mathemateg yn yr ysgol am fwy na tri deg mlynedd.
Ym 1999, roedd Shula, ei gŵr, a thri arall mewn damwain car erchyll. Shula oedd yr unig un a oroesodd, ac roedd hi angen 28 uned o waed i achub ei bywyd.
Roedd Shula yn rhoddwr gwaed ei hun cyn y ddamwain, ond nid yw hi bellach yn gallu rhoi gwaed oherwydd ei bod hi wedi cael trallwysiadau. Yn lle hynny, mae hi wedi sianelu ei hymdrechion i helpu ac annog pobl ifanc i roi gwaed, yn gyntaf gyda’r Clwb Ffermwyr Ifanc a nawr, yn Ysgol Gymunedol Tonyrefail.
"Mae'r cyfan yn ymwneud ag annog pobl ifanc i roi’r rhodd gyntaf honno," meddai Shula. "Unwaith maen nhw wedi rhoi gwaed am y tro cyntaf, mae'r rhan fwyaf o bobl yn tueddu i barhau."
Yn wir, meddyliodd Shula am un o'i myfyrwyr, Rachel, a roddodd waed am y tro cyntaf yn 17 oed, yn fuan ar ôl y ddamwain. Nawr, mae Rachel yn gweithio gyda Shula yn yr ysgol, ac mae hi wedi rhoi gwaed bron i 40 gwaith.
Roedd diwrnod y sesiwn rhoi gwaed gyntaf un yn yr ysgol yn un balch iawn i Shula.
"Mae'r myfyrwyr wedi dangos aeddfedrwydd mawr, hyd yn oed y rhai oedd yn nerfus am y broses," meddai hi.
"Roeddwn i'n gwybod y byddai ein myfyrwyr yn awyddus, ond doeddwn i ddim yn disgwyl i gynifer ddod ymlaen. Roedden nhw wir yn gefnogol i'w gilydd."
Pwysleisiodd Shula bwysigrwydd gwelededd wrth annog rhoddwyr tro cyntaf.
Meddai: "Roedd gennym ni lawer o fyfyrwyr Blwyddyn 12 a TGAU oedd eisiau rhoi gwaed ond ddim yn gallu, oherwydd eu bod nhw dan 17 oed. Roedden nhw'n gofyn pryd fyddai'r sesiwn nesaf oherwydd eu bod nhw mor awyddus i gymryd rhan.
"Roedd rhai myfyrwyr yn rhy nerfus y tro hwn, ond roedd gallu gweld y broses, gofyn cwestiynau i'r myfyrwyr a wnaeth rhoi gwaed, wedi eu helpu nhw gyda’u penderfyniad ar gyfer ein sesiwn nesaf."
Lowri Holloway, myfyrwraig Blwyddyn 13, oedd y myfyriwr cyntaf yn yr ysgol i roi gwaed, ac roedd hi wrth ei bodd gyda'r broses gyfan.
"Clywais amdano gan fy rhieni, sydd ill dau yn rhoddwyr gwaed eu hunain, a dywedon nhw ei fod yn achos da iawn," eglurodd Lowri.
"Roeddwn i'n meddwl y byddai rhoi gwaed yn brifo, ond wnaeth e ddim. Os ydych chi'n nerfus, gofynnwch gwestiynau. Mae'r staff yn gyfeillgar iawn ac yn hapus i ateb.
"Roedd yn hwyl iawn, i ddweud y gwir. Buaswn i’n bendant yn ei argymell i unrhyw un sy'n ystyried hynny!"
"Pan rydyn ni'n siarad am y manteision o roi gwaed, rydyn ni bob amser yn canolbwyntio ar yr effaith y gall rhodd o waed ei chael ar achub bywyd. Mae gan un rhodd y pŵer i achub hyd at dri bywyd. Ond mae yna fanteision eraill hefyd," eglurodd Shula.
"Rydym yn ysgol gymunedol, felly mae gwneud rhywbeth dros y gymuned yn arbennig o bwysig i ni," meddai.
"Gadawodd ein myfyrwyr yn teimlo'n falch iawn ohonyn nhw eu hunain a'r hyn roedden nhw wedi'i wneud i rywun mewn angen."
Trefnwyd y sesiwn yn Ysgol Gymunedol Tonyrefail fel rhan o raglen rhoi gwaed chweched dosbarth Gwasanaeth Gwaed Cymru, sy'n galw ar ysgolion a cholegau ar draws Cymru i helpu i geisio cael pobl ifanc i roi gwaed a hefyd, i godi ymwybyddiaeth ynghylch y pwysigrwydd o gofrestru i fod ar gofrestr bôn-gelloedd y Gwasanaeth.
Shula said: “The Welsh Blood Service staff have been fantastic, on the day and in the run-up to it.
"Gwnaeth yr ymweliad a'r cyflwyniad cyn y sesiwn waith gwych o nid yn unig egluro'r broses i fyfyrwyr, ond o chwalu unrhyw fythau ac ateb unrhyw gwestiynau oedd gan y myfyrwyr."
"Ni allaf ei argymell ddigon i ysgolion eraill. Mae'n fenter wych, sy'n fuddiol i'r myfyrwyr ac sydd yn achub bywydau."